You are here: Home > News > Profile
News
Profile
Proffil
Ganwyd Pierino Algieri ym 1955 ac fe'i magwyd yn Nyffryn Conwy. Daeth ei dad, sef Vincenzo Algieri i'r wlad hon fel carcharwr Rhyfel o'r Eidal ac fe'i cadwyd mewn gwersyll yn Llanrwst. Wedi i'r rhyfel ddod i ben fe ymgartrefodd yma i weithio ym maes coedwigaeth a ffermio.
Mae Pierino wedi ymddiddori mewn ffotograffiaeth ers blynyddoedd lawer, ond dim ond yn ddiweddar ym 1995 y dechreuodd ymgymryd â'r peth o ddifrif wedi iddo ymuno a Chlwb Camera Llanrwst. Dysgodd Pierino y grefft hon hyd safon uchel iawn iddo'i hun ac mae'n unigolyn sy'n teimlo'n angerddol dros ffotograffiaeth sy'n ymwneud a'r dirwedd a natur.
Un o'i hoff leoliadau yw Parc Cenedlaethol Eryri. Dyma i chi ardal sy'n llwyddo i'w ysgogi'n ddi-ffael, gan fod pob ddiwrnod gwastad yn wahanol yma.
“Mae tirwedd ysgytwol wych Eryri yn fy syfrdanu i dro ar ôl tro ac mae edrych arni drwy'r camera yn peri i fy enaid esgynâ€.
Llwyddodd Pierino i ennill yr adran ‘Tirwedd Wledig' yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth ‘Countryfile' yn BBC ym 1998 gyda'i lun o farics chwarel adfeiliedig, cyhoeddwyd un o'i luniau o afon fynyddig a phibonwy yng nghalendr 2004 hefyd. Yn ogystal â hynny cyhoeddwyd nifer o'i luniau mewn cylchgronau cenedlaethol. Erbyn hyn fe all pobl ar hyd a lled y byd weld ei luniau ar ei wefan ac fe allforiwyd rhai ohonynt i gwsmeriaid a busnesau dramor. Dyfarnwyd 15 o luniau Pierino a gyflwynwyd ganddo gerbron panel o bobl sy'n cynrychioli Cynghrair Ffotograffiaeth Prydain Fawr (CPIPF/PAGB) gyda safon anrhydedd mewn ffotograffiaeth yn 2002.
Gwefan www. algieri-images.co.uk.
Profile
Born in 1955 Pierino Algieri was raised in the Conwy Valley. His father Vincenzo Algieri came to this country as an Italian prisoner of war and was held in a camp in Llanrwst. After the war ended he settled here working in forestry and farming
E-mail info@algieri-images.co.uk
Web site http://www.algieri-images.co.uk/
(posted 02/03/2009)
List of all News
New Product - Wooden Jigsaws
New for 2009 Wooden Jigsaws produced from a selection of Pierino's images.
(03/08/2009)
Find out more
Profile
(You are on this page).
Overseas Orders - if you are ordering from outside the UK, please remember to add Overseas Delivery.
Need help? Phone 01492 642183 or e-mail us.
Content is copyright Algieri Images, North Wales, UK.